Cymru – Cyfleoedd Gwirioneddol
"Iechyd Da!" Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni mae angen dymuno “iechyd da” i fusnesau tebyg i chi yn fwy nag erioed.
Pam Cymru?
Rydym yn falch o’r cyfleoedd gwirioneddol sydd ar gael yma yng Nghymru ar gyfer busnesau rhyngwladol, gan gynnwys ein gweithlu o’r safon uchaf a’r eiddo sydd ar gael, y cymorth grant sylweddol sydd ar gael, yr ymchwil a’r datblygu a’r costau gweithredu isel. Gall hyn oll fod o help i chi a’ch cwmni.
Mae Busnes Rhyngwladol Cymru yma i helpu cwmnïau byd-eang tebyg i chi fanteisio ar y cyfleoedd hyn drwy fasnachu â chwmnïau yng Nghymru yn y Deyrnas Unedig neu drwy sefydlu cysylltiadau o’r fath.
------------------------------------------------------------------------------------------
Mynediad i Gymru ... y ffordd hawdd i ehangu eich busnes
Mae busnesau technolegol ac iddynt y potensial i dyfu’n sylweddol ac sy’n edrych ar y posibilrwydd o ehangu drwy ddod i’r Deyrnas Unedig yn cael cynnig safleoedd yn DDI-DÂL mewn canolfannau arloesi yng Nghymru. Mae hyn yn rhan o fenter newydd sy’n rhoi cyfle i fusnesau ‘roi cynnig arni cyn prynu’ .
Rhagor o wybodaeth am y fenter Mynediad i Gymru a sut mae gwneud cais
------------------------------------------------------------------------------------------
Canllaw i Fuddsoddi yng Nghymru
Gwybodaeth i fusnesau rhyngwladol sy’n edrych ar y posibilrwydd o fuddsoddi yng Nghymru. Gwybodaeth am y wlad rhanbarth, trethi, telathrebu, costau a chyllid achymorth grant ynghyd â phwyntiau cyswllt ar gyfer rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythwch y canllaw yn RHAD AC AM DDIM
------------------------------------------------------------------------------------------
Masnach Ryngwladol
P’un ai a ydych chi’n gwmni cynhenid o Gymru ei hun neu’n fusnes rhyngwladol sy’n chwilio am bartner masnachu yng Nghymru, gall ein cynghorwyr profiadol eich helpu. Cynigiwn gymorth hyblyg wedi’i deilwra’n benodol ar gyfer eich anghenion mewnforio ac allforio.
Rhagor o wybodaeth am y fasnach ryngwladol.




